Sunday 15 May 2011

Wythnos 16-23 Mai

Rwyf yn bwriadu beicio rownd Cymru cyn bo hir. 
Fel arfer bob blwyddyn, os di’r corff yn iawn, rwyf yn cymryd rhan mewn her beicio, ond  blwyddyn yma, taith rownd Cymru sy’n apelio.  Mi ddylwn fod fi wneud reid o bump i chwe awr gefn-gefn, hyd heddiw, ond un chwe awr dwi wedi eu gwneud, oherwydd y gwynt cryf.    Pythefnos yn ôl mi wnes i ddwy reid o bedair awr gefn-gefn.  Hefyd efo fy mhrofiad o feicio , dylwn  fod fi gwybod os dwi iawn.   Mae 'na un peth da, wnes dorri fy record o riw Rhyd dydd Sadwrn.  Her ydy o Lanfrothen i dop y rhiw, dechrau wrth y blwch llythyrau, fel arfer tua naw munud ydy ‘r cyfartaledd, wyth munud trideg eiliad oedd y record.  Roeddwn yn teimlo da, felly ers amdani, speedo, ddim ar yr amser, dim i dyna fy sylw, cyrraedd y top, iiiiaaaa, wyth munud Undeg chwe eiliad! Hapus iawn.  Mae rhaid cael wythnos dda o ymarfer rŵan, achos ar ôl fis heb gwrw bydd diwrnod ar y stwff dydd Sul.

No comments:

Post a Comment