Tuesday 31 May 2011

cwpan cenhedloedd carling

CYSTADLEUAETH CENHEDLOEDD CARLING:

Dwi gofio pam wnaethant nhw gyhoeddi’r gystadleuaeth yma, roedd pawb yn bositif iawn.  Y bwriad oedd ail-greu'r gemau rhyngwladol cartref.

Ond ar ôl torfeydd gwael iawn yn bron i bob gêm, methiant llwyr oedd o.  Mi wnaeth ddechrau yn fis Chwefror, roedd bob gêm yn  cael eu chwarae yn stadiwm newydd sbon Aviva sef yr hen
Landsdowne Road
yn Ddulyn.   Ond y camgymeriad mawr o’r dechrau oedd dewis Iwerddon fel yr Hostia cyntaf.  Mae Iwerddon erioed wedi bod yn ddrytach na Phrydain, ond yn enwedig yn y sefyllfa fregus economeg yn fyd eang doedd ddim gobaith i gefnogwyr deithio yn eu miloedd i Ddulyn.

Roedd problem arall i reoli, cefnogwyr Gogledd Iwerddon.  Mae pawb yn gwybod does dim llawer o gariad rhwng y ddwy wlad. Mi achoswn trwbwl yn fis Chwefror yn erbyn Yr Alban.   Ac erbyn mis Mai roedd y Gardai wedi gwneud eu penderfyniad, doedd ddim isio nhw yn Iwerddon.  Mi wnaethant nhw deithio fewn bws wedi eu rhoi yn bwrpasol i‘r gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon. Ac yn anffodus oherwydd hyn mi benderfynodd cefnogwr y Gogledd troi eu cefn ar anthem genedlaethol y Weriniaeth. Roeddynt yn chwarae Cymru dridiau wedyn ac ond llond bws gwnaeth trafaelio. 

Wrth sgwrs roedd y ‘Tartan army’ wedi dod yn eu miloedd, ond roedd llawer wedi troi eu cefn ar y gemau oherwydd y prisiau. 

O Gymru ond tua chant a hanner wnaeth fentro drosodd i’r tair gêm.

Mi roedd yn bechod, yn fy marn i, mae 'na gystadleuaeth yna fewn rhyw fformat.  Yn amlwg oedd y bwlch rhwng y gêmau, yn enwedig o Chwefror tan Fai yn broblem, ac wedyn i Gymru o ddydd Mercher tan ddydd Gwener.

Un ateb ydy chwarae dwy gêm y diwrnod, bosib tua 17.30 a 20.00, hefyd yn amlwg tocynnau rhatach, £15 i oedolyn a £5 i blentyn?.  Peidiwch â gwrando ar neb fydd yn dweud does dim angen gêmau gyfeillgar, digon buan bydda nhw’n hedfan i’r Dwyrain pell neu America i chwarae gêmau.  A byddai wedi bod yn well a Lloegr i mewn? Yn sicr, bydda bob gwlad wrth eu bodd yn curo nhw.

No comments:

Post a Comment