Tuesday 7 June 2011

CAN FILLTIR AR FEIC

CAN MILLTIR AR FEIC:
Ia, can milltir ar feic mewn un diwrnod, mae’n andros o swm i rai ond ymarfer  yw’r gyfrinach.  Mae can milltir yn garreg filltir yn y byd beicio, fel marathon yn y byd rhedeg.

Wnes brynu fy meic cyntaf ym 1993, o siop ym Mhort, Raleigh M Trax, £350 a thalu’n fisol.  I ddweud y gwir dwi ddim yn cofio fy nghan milltir gyntaf, dwi gofio mynd i Ddolgellau ag yn ôl, rhyw 50 milltir roedd hon.  Ym 1998 ar ôl gwylio’r Tour de France yn gyson, wnes ddisgyn mewn cariad a beics Bianchi, lliw ‘celeste green’  roeddynt.   Roedd ‘Il Pirata’ sef Marco Pantani yn defnyddio Bianchis ac enillodd y Tour ar un.

Felly i Gaer roedd rhaid mynd i’r siop Bike factory, roedd fel bod yn blentyn mewn siop da das!. Wnes wario £500 tro’ma.  Bianchi racing sprint roedd o, nefoedd roeddwn wedi gwirioni â fo, ym 2002 wnes benderfynu wneud yr Etape. Roedd trefnwyr y TDF wedi gweld cyfle i farchnata’r tour wrth greu’r Etape, cyfle roedd hwn i gydgyfranogi mewn un cymal or tour, erbyn heddiw mae mor boblogaidd mae tua 8000 yn cymryd rhan.

I ddweud y gwir, y wraig roedd y bai, dwi’n cofio hi’n dweud “neu di byth wneud o”.  Roedd y geiriau yna yn ddigon i ryw ddyn doedd.  Roedd rhaid gwisgo helmed yn yr Etape, dwi ddim yn credu mewn gwisgo un, dim ond tair gwaith dwi wedi gwneud, gallai ddim ei dioddef. , Ond eto mae hon yn ddadl arall tydi, ta waeth wnes orffen yr etape mewn  wyth awr a thrideg munud.

Roedd beicio rŵan yn cael ei hyrwyddo ym mhob man, roedd dynion a merched yn enwedig dynion hun yn mentro i gystadlu mewn her sydd yn cael eu galw’n ‘ Sportives’.  Reid o tua chan milltir ydy'r rhain.  Mae’n costio i gyfranogi ynddynt ac mae bwyd a diod ar gael, ac eich amser wedyn.

Dwi wedi gwneud un yn Iwerddon, un yn Lloegr a dau yng Nghymru. Ar ôl eu gorffen nhw mae 'na ryw brofiad synwyriadol o lwyddo. 

Pob blwyddyn mi fyddai yn trio gwneud y can milltir gyntaf o’r flwyddyn ddim hwyrach na mis Ebrill, mae rhaid cael y milltiroedd yn y coesau neu’r banc fel saf rwy’n yn ddweud.  

Y cynllun blwyddyn yma ydy beicio mewn ardaloedd gwahanol ym  Mhrydain.   O brofiad, i rwy’n sydd yn beicio â lefel iawn o ffitrwydd, rhwng chwech ac wyth awr ddylsau rwy’n cymryd.  Amser ar y beic yw hwn, cofiwch, mae rhaid gadael amser i stopio am baned, toiled a phethe.  Fi fy hun, mi fyddai ddim yn stopio’n hir, achos mae bosib cael trafferth dechrau nôl wedyn, byddech  chi’n gallu bod yn  orlawn o fwyd a theimlo wedi blino wrth ail ddechrau.  Wrth gwrs rhaid cofio ddim ras yw hi, mynd yn ddow dow de, mwynhau'r golygfeydd godidog o'n gwmpas, tynnu lluniau, siarad â mwydran pobl. Ia hwyl ydy fod.

Y mwya’ cyflym dwi wedi gwneud cant ydy pum awr a phumdeg munud. I  Flaenau, ac wedyn dipyn bach o dwyllo, mynd yn ôl a blaen i Nantmor dair gwaith, yndi mae’r lon yma’n wastad.  Beth rhaid cofio ydy, adeiladu’n bwyllog i’r cant sydd rhaid gwneud.  Yn amlwg byddai rwy’n yn wirion i drio gwneud cant yn syth.  Felly anelu i wneud pumdeg cyntaf, wedyn saithdeg, os gallwch wneud y swm yma, allwch wneud cant yn sicr.  Mae amser ar y beic yn amser i feddwl hefyd, mi fyddai’n meddwl am bob dim, sut buaswn yn rhoi'r byd yn ei le a phethe.


Mae beiciwr o ddifri yn gallu gwneud cant mewn tua phedair awr, ia, mynd fel ffyliaid a gweld dim ond eto cystadlu maen nhw.  Beth am fwyd? Y diwrnod o’r blaen wnes yfed pedwar potel o ddŵr 500ml â tablet disychiad yn y dŵr, tri gel egni, dau damaid o gacen soreen , un fflap Jack a dau far grawnfwyd.  Roedd hon yn reid galed ac roedd yn ddiwrnod poeth.

Wnes ddechrau ym Mhorthmadog ac wedyn i Ddolgellau, mi wnes droi i lawr am allt uwchben llyn Tal-y-llyn lle'r oedd y llyn yn edrych yn syfrdanol.

 Roedd rhan eitha’ caled wedyn i Gorris, o’n wedyn mae 'na bum milltir o allt  lawr i Fachynlleth.  Mi wnes droi wedyn am Aberdyfi a Thywyn.  Ar ôl Bryncrug roeddwn yn beicio ar ochr lein rheilffordd cambrian ar fôr wrth fy ochr. O’r diwedd wnes cyrraedd Llanelltyd, ble gefais seibiant o ryw ddeng munud, achos roedd fy nhraed yn brifo cymaint.  Y tywydd poeth yn wneud nhw chwyddo. Roedd y darn olaf yn boenus oherwydd y tywydd, yn enwedig yr allt heibio coedwig Coed-y- Brenin, ond mae gennyf ddigon o brofiad i ddioddef poen.  Roedd dod i lawr allt Minffordd a gweld Y Cob yn deimlad braf iawn. Ar ôl gorffen roedd rhaid ddechrau’r broses o ddod at fy hun.  Mae’n bwysig i gymryd bwyd a diod yn yr ugain munud ar ôl gorffen, hwn ydy’r  cyfnod pwysig medden nhw, yr arbenigwyr dwi feddwl.

 Felly os oes modd, a rhyw wyth awr yn sbâr ewch amdani.