Monday 18 June 2012

Etape Eryri

Etape Eryri 17eg o Fehefin 2012-  
Ie - blog am Sportive arall, ond y tro yma ar stepen fy nrws.   Fel yr arfer mae’n rhaid teithio i dde Cymru neu Loegr i gael cystadlu mewn Sportive - sef her ar feic.

Nid oeddwn am gystadlu i ddechrau am fod y gost yn £35.   Ond ar ôl ail feddwl roedd y bobl a oedd yn eu trefnu yn ceisio denu pobl  i’r ardal, ag eto dim ond pris hanner sesh yw £35! 

Yn amlwg roedd pawb yn cadw llygad barcud ar y tywydd drwy ystod yr wythnos, ac wrth lwc nid oedd problem o gwbl a’r tywydd - heblaw am y gwynt cryf ar y Mignaint. 

Roedd bosib i chi gofrestru yng Nghaernarfon ar y dydd Sadwrn - mi wnes gymryd yr opsiwn yma i arbed amser yn y bore.  Roedd y cofrestru yn hollol di - drafferth a phawb yn barod i roi cyngor ag ateb unrhyw gwestiynau.

Gwely’n gynnar nos Sadwrn a chodi 05.30 yn y bore.   Gwnes barcio yn dŷ fy ffrind a seiclo rhyw filltir i’r maes yn y Dre.   Roedd yn brysur iawn yno a phawb i weld yn nerfus ond isio dechrau  dw i’n sicr.   Roedd problem gennyf oherwydd oedd rhaid gwisgo helmed- nid wyf yn hapus a hyn oherwydd mae fel popty ar fy mhen - peidiwch â fy marnu - nid yw’n gyfraith a dewis personol ydyw.

Roedd Telor Iwan sy’n byw yng Nghaerdydd wedi dod yn ôl i’r gogledd i gystadlu am seiclo gyda fi, ac roedd Hefin Pugh o Borthmadog yn ymuno â ni hefyd.   Beth bynnag roedd Telor yn dipyn cryfach ar y diwrnod ac roedd Hefin yn mynd yn dda i feddwl nad oedd wedi seiclo’r pellter hyn tro blaen.   Roedd tri phellter i’w ddewis, 49 bach - 76 canol a 103 mawr.  Rhaid rhoi chwarae teg -  rwyf wedi cystadlu yn ambell i sportive dros y blynyddoedd ac roedd trefniadaeth Etape Eryri o’r safon uchel.  Da iawn nhw a phawb oedd yn gwirfoddoli yn y llefydd diod a bwyd, a'r  stiwardiaid ar bob cyffordd. Nid oedd gobaith o fynd ar goll.  Roedd y tri llwybr yn her, mi wnes orffen yr un mawr mewn 7.43 munud -  yr amser seiclo oedd 7.02 ond am ryw reswm roeddwn wedi seiclo 106 milltir!. Roedd dau seiclist proffesiynol o dîm Sky, â'i rheolwr yn wreiddiol o Ddeiniolen  Dave Brailsford wedi cymryd rhan.

Ie diwrnod grêt, hwb arall i Ogledd Cymru a Sportive arall wedi eu cwblhau, roedd 600 wedi cystadlu dw i’n sicr mi fydd fwy yn 2013.

Tommie Collins