Monday 27 May 2013

Ffestiniog360

Tîm photo



Ffestiniog 360:

Glaw, tap, Gai Toms ac Anweledig, pethau sy’n cael eu cysylltu â Blaenau Ffestiniog.  Ond ar fore hyfryd ddoe Mai 27fed, roedd yr awyr yn las ac nid oedd smotyn o law ar y gorwel.

Roedd wyth aelod o  Glwb Seiclo Madog yn cymryd rhan yn yr ail Ffestiniog360, sef her o 62 filltir ar feic rownd Eryri.  Y reid hon oedd ‘début’ cit seiclo’r clwb.

Roedd yr her agoriadol blwyddyn ddiwethaf wedi mynd yn groes i’r cloc, blwyddyn yma roedd yn cymryd cyfeiriad clocwedd, sef i lawr am Fanod cyntaf, a gorffen i fyny ‘r Crimea -ouch!   Roedd Clive Aspden yn bendant na bai fi oedd hyn oherwydd wnes ei awgrymu, cymerai’r bai;-)

Roedd dau aelod o’r clwb wedi cychwyn am 08.30, yr hogiau sydyn oedd y rhain, roedd y gweddill ohonom am fynd fel criw a chymered ein hamser.   Roedd yr ardal tu allan i westy Tŷ Gorsaf yn llawn bwrlwm gyda phawb yn tynnu lluniau ar fore mor hyfryd, roedd y seiclwyr yn gwirio ei beiciau a llenwi eu pocedi gyda bwyd am y reid.

Golygfeydd

Gwnaethom ni fynd  lawr allt Manod am Faentwrog a throi’r dde am Ryd.  Hon roedd yr her gyntaf ac roedd pawb wedi distewi  wrth ddringo i dop Rhyd.  Roedd y reid yn eithaf gwastad wedyn tan y ddringfa o Feddgelert i Ryd Ddu, gyda chopa’r Wyddfa i’r dde yn ei holl ysblander.  Mae’r ffordd wedyn yn rhoi cyfle i gael dipyn o gyflymdra’u tan y tro yn Waunfawr am Geunant.  Mae’r allt lawr i Lanrug yn wych i gael cyflymdra’u ond mae’n eitha technegol.  Mae’r golygfeydd yn y fan hon yn wych , gydag ynys Môn yn y pellter ar mor yn disgleirio.  Cyrhaeddom ni'r stop diod cyntaf ym Mrynrefail ,oedd problem yn fan hon, roedd Paul French ar goll!   Ar ôl tua deng munud mi gyrhaeddodd, oedd yn meddwl bod Clive ar goll - ac wedi aros amdano. Chwarae teg iddo - ond ??

Gwynt

Roedd drag caled wedyn am gylchfan Llandegai, roedd y galon yn gweithio rŵan, ond roedd gwaeth i ddod.  Roedd y lôn o Fethesda i Lyn Ogwen yn dorgalonus, gyda gwynt blaen cryf.  Roedd  yr ail stop dŵr ger y Llyn yn groesawus.

Llyn Ogwen
Ar ôl y stop yma roedd adeg gorau o’r reid, gyda’r GPS wedi colli’r signal yn ardal Tregarth, roedd y nôl ar y lôn yma.   O Lyn Ogwen i Fetws y Coed roedd cyfartaledd ni’n 26.6 m.y.a.!   Roedden fel Tîm Sky yn gwibio mewn llinell a helpu’n gilydd wrth gymryd tro yn y blaen -  Profiad byth cofiadwy.  Ar ôl y profiad gwych, oedd  hunllef  ar y gorwel gyda gwynt blaen eto’r holl ffordd i Ddolwyddelan.  Roedd pawb angen panad yn y fan hon cyn rhiw Crimea, roedd hyn yn dric sâl gan y trefnwyr, y Crimea ar ôl dros bumdeg milltir yn y coesau - creulon,

            Ffwrdd a ni am her olaf y reid.  Roedd un seiclwr yn cerdded i fyny’r allt, roedd y gwynt yn chwythu’n hwynebau ac nid oedd llawer o siarad!   Rwyf wedi dringo’r Crimea llawer gwaith, ac roeddwn eith falch o gyrraedd y copa a chael disgyn lawr  i Flaenau lle'r oedd bara brith yn aros amdanom ni, a chyfle i rannu ein storiâu ân brofiadau.

Ystadegau:

Cymryd rhan -300

 64.5 milltir

4awr 18 munud amser reidio

14.8 cyfartaledd

Llwyth o jelly babies

Fig rolls

 Dŵr

Positifau – pris mynediad £12

Stop Brynrefail wedi ei symud o’r briffordd

Negyddol

Dim marsial yn dro ger Pentir

Stop dŵr Betws - anhrefn( angen rhywle arall )

Dim crys -t pe bai chi heb gofrestru yn gynnar!

Gwynt, gwynt a gwynt

2 comments:

  1. Da iawn Tommie,

    Cytuno gyda chdi am y diwrnod, bendigedig o dywydd, cwrs gologfeudd a 'r cwmni (Cliff Clive Twm Paul Andy (am tua tair milltir) Tommie a Pat)

    O rhan y tywydd, heb blaw am y gwynt, sa ni heb di gobeithio am well. oedd rhywun yn gwenu uwchben Eryri dydd Sul. mor dda oedd hi mae'r seicyl tan yn dod ymlaen yn wych. Hefyd roedd yr haul ar awyr las yn dangos Eryri ar ei orau, yn enwedig ffordd allan o Feddgelert i Waunfawr, a dyffryn Ogwen i Fetws y coed. Mor falch fy mod yn dod o ogoniant o le, yn enwedig ar ol byw yn de ddwyrain Lloegr ( ych a fi ) am dros ugian mlynedd.

    Oedd y cwrs yn sialenj i rhywun. ni allaf ei gymharu a un flwyddyn dwethaf, er fy mod wedi gwneud y mwyafrif or dringfeudd drost y flynyddoedd dwethaf. Ni allaf gytuno gyda Tommie fod y trefnwyr wedi gadael crimea tan y dwytha, gan sa'r mwyafrif yn gwybod beth yw ddisgwl...... POEN POEN a PHOEN. fel arall 90 allan o gant. un cwyn am y cwrs,sa'r arwyddion ar ochor y chyfforddion yn gallu fod yn fwy clir.

    Gai ddiolch i'r hogia am uffarn o ddiwrnod da, ac yn edrych yn dda yn y kit newydd. BUZZ gora ar gefn beic hyd yma i mi oedd bomio lawr o Besa i Betws BRILLIANT BOIS, BRILLIANT. Gai ddiolch hefyd i'r bedair ferch o Wrecsam oedd o'mlaen ar yr allt allan o Waunfawr i Llanrug. oedd rhaid i mi arafu lawr ac edmygu y penolau pert yn powndio'r pedals. allt hawddach gyda golygfa fela.

    Felly ar y cyfan fwy o + ne -

    + tywydd golygfeudd cwmni oakly i rhyd, allan o Waunfawr am y rheswm uchod, y buzz i betws allt Crimea


    - guinness nos sadwrn (bai fi ) fanodd ar ol gymaint o diodydd melus a gels a dadas. gwneud gyda well arwyddion



    DIOLCH I BAWB ETO. RUN FATH HEFO ETAPE ERYRI

    ReplyDelete


  2. Oh ia, ysgwydd Cliff hefyd

    ReplyDelete