Etape Eryri -2013
Dydd Sul
8fed o Fehefin 2012 roedd sportive Etape
Eryri sef her ar feic yn cael ei gynnal
yng Nghaernarfon. Roedd tua 600 o
seiclwyr yn cystadlu, ymlaen i 16 o Fehefin 2013 roedd yr ail Etape Eryri yn
cael ei gynnal gyda dros 1100 o seiclwyr ar ffyrdd Eryri.
Roedd
maes Caernarfon yn llawn bwrlwm 07.00
bore gyda seiclwyr yn gadael mesur 30 bob tri munud.
Roedd
clwb seiclo Madog yno gyda rhai yn wneud yr un mawr, 103 o filltiroedd a rhai
yn wneud yr un canol 76. Roedd, hefyd
her o 46 milltir i geisio denu seiclwyr newydd i gymryd rhan.
Mae’r
cwmni Camu i’r Copa yn trefnu digwyddiad o’r safon uchaf, gyda marsialiaid ar
bob cyffordd a pum stop diod ar yr her fawr.
Ac mae ‘r cyfarwyddwr Tim Lloyd wedi llwyddo i gael neb llai na ‘Sir
Dave Brailsford’ i gymryd rhan, roedd Sir Dave digon hapus i gwrdd â phobol am
sgwrs a thynnu lluniau ar ôl iddo orffen.
yr hogiau a syr Dave |
Ar
ôl brecwast o bowlen ‘bran flakes’, roedd 8 gel gennai am yr her, a dwy
botel gyda diod egni. Rwyf wedi arfer
dros y blynyddoedd wrth seiclo i wybod
pryd a beth i’w fwyta, ond oedd problem ddoe gyda’r ddiod lliw coch yn y stop
cyntaf ym Meddgelert. Roedd yn blasu fel disel a throi stumog pawb - yr unig
gŵyn gennai am y digwyddiad. Mae unrhyw reid ar feic o dros dair awr yn rhoi
poen yn yr ysgwyddau a chefn ond heb os mae poen stumog yn ddiflas.
Roedd
y cyfeillgarwch ar y reid yn wych a dyna beth sy’n wneud seiclo mewn digwyddiad
fel hyn yn wych. Roedd y cwrs yn mynd i
fyny elltydd Drws y coed ger Talysarn, Rhyd ger Llanfrothen ac Allt Goch ger
Llan Ffestiniog. Elltydd bydd y rhan
fwyaf o seiclwyr lleol yn eu hadnabod, rwy’n methu neud y penderfyniad ydy hyn
yn fantais neu’n anfantais!
Mae
her fawr wedyn yn mynd am lôn Drawsfynydd
i Fala a throi'r nôl i fyny Lôn Migneint, ac yn wastad mae’r gwynt blaen
yn erbyn chi. Fy rhan gorau o’r her ydy
disgyn lawr i Ysbyty Ifan, mae rhywun yn gallu cael cyflymdra’u heithriadol,
mae allt greulon wedyn i fyny am Bentrefoelas lle mae’r gwirfoddolwyr lleol yn
aros amdanoch gyda bwyd a diod.
Mae
drag wedyn i fyny am bentre’ Nebo cyn disgyn i Lanrwst, roedd y lôn yma yn
berig oherwydd mae coed uwchben a cherrig mân, cyfnod ofnus gyda phawb yn
pwyllo. Ar ôl cyrraedd Betws y Coed
roeddwn y nôl ar ffyrdd cyfarwydd, ond roedd y gwynt blaen o Gapel Gurig i Ben
y Pas yn dorcalonnus. Roedd angen i
aelodau ifainc o Glwb Seiclo Madog i fy helpu drwy’r hunllef. Roedd disgyn i lawr bwlch Llanberis yn
brofiad gwych, gyda llinell o seiclwyr mewn rhes, roedd hawdd dychmygu fy mod
fel seiclwr proffesiynol yn un o’r rasys enwog fel y Tour de France.
Roedd trefnwyr y digwyddiad gyda un tro yn y gynffon creulon arall, yn ein harwain dros
allt Ceunant - ouch! Ar ôl Waunfawr
roeddwn yn gwybod fy mod bron a gorffen a wnes fynd fel ffŵl drwy Bontnewydd a
rownd Castell Caernarfon a’i fyny’r maes lle'r oedd cannoedd yn ein cymeradwyo
wrth fynd dros y llinell derfynol.
Roeddwn yn 38 munud yn sydyn na 2012, ac roeddwn yn ystod yr wythnos
wedi cael fy nghanlyniad gradd o 2.1 a myfyrwyr y flwyddyn gan y
brifysgol. Yn sicr roedd yn amser ddathlu
gydag un neu ddau o beints!
Ystadegau - amser 7.10 amser seiclo 6.35
Y gyntaf nôl
Gareth Mcguiness 4.59.30 !!!!!
Tommie Collins
Diolch Tommie am dy sylwadau,
ReplyDeleteFe nath un neu ddau o honom ni o CSM "cael dipin o sufferfest"
cafodd Clive o leia 2 bynctiar, wedi pinchio ei tube ( a fo wedi bod ar cwrs dewi!! ) a gafodd Twm punctiar hefyd ger llyn mair. oedd Cliff yn cael amser go ddrwg ar yr elltydd, ond mae wedi bod yn gweithio oriau mawr yn ddiweddar gyda'i waith, felly oedd y coesa ddim mor gryf a ddylsiau bod.
Fi, "self inflicted" nos sadwrn. ond er huna fe lwyddais i wneud y her fawr. amser swyddogol 9a 21m, er dydir amser ddim yn cymeryd i styriad aros am bobol a pit stops.