Fel arfer bob blwyddyn, os di’r corff yn iawn, rwyf yn cymryd rhan mewn her beicio, ond blwyddyn yma, taith rownd Cymru sy’n apelio. Mi ddylwn fod fi wneud reid o bump i chwe awr gefn-gefn, hyd heddiw, ond un chwe awr dwi wedi eu gwneud, oherwydd y gwynt cryf. Pythefnos yn ôl mi wnes i ddwy reid o bedair awr gefn-gefn. Hefyd efo fy mhrofiad o feicio , dylwn fod fi gwybod os dwi iawn. Mae 'na un peth da, wnes dorri fy record o riw Rhyd dydd Sadwrn. Her ydy o Lanfrothen i dop y rhiw, dechrau wrth y blwch llythyrau, fel arfer tua naw munud ydy ‘r cyfartaledd, wyth munud trideg eiliad oedd y record. Roeddwn yn teimlo da, felly ers amdani, speedo, ddim ar yr amser, dim i dyna fy sylw, cyrraedd y top, iiiiaaaa, wyth munud Undeg chwe eiliad! Hapus iawn. Mae rhaid cael wythnos dda o ymarfer rŵan, achos ar ôl fis heb gwrw bydd diwrnod ar y stwff dydd Sul.
No comments:
Post a Comment