PEDWAR DIWRNOD YNG NGWLAD FY NHAD:
Roedd yna apêl fawr i ddechrau doedd. Pedwar diwrnod yn Iwerddon , cwrw blasus a gwylio Cymru fewn dwy gêm ryngwladol,
Cystadleuaeth cwpan cenhedloedd carling roedd yn cael ei chynnal am y tro gyntaf, trio ail danio’r home internationals roeddynt. Yn amlwg doedd Lloegr ddim am gystadlu, maen nhw well na ni ddydy?
Y broblem o’r dechrau oedd , bod gemau wedi cael eu cynnal yn fis Chwefror, felly roedd hi’n dipyn o gamp gofyn i gefnogwyr fynd yn ôl am Bedwar diwrnod. I ddweud y gwir oedd angen i fi fynd yn ôl achos, roeddwn wedi meddwi braidd yn Chwefror a doeddwn i ddim yn cofio sut roedd y cae yn edrych.
Yn anffodus dim ond fi o hogiau Port roedd yn mynd. Dim bod fi gweld bai ar neb ddim yn mynd. Yn amlwg roedd pres yn broblem i bawb, a gorfod cymryd gwyliau o'r gwaith. Ar hyn o bryd rwyf ddim yn gweithio felly roedd y broblem yna ddim â fi.
Roedd gemau Cymru wedi eu trefnu ar nos Fercher a nos Wener. Mi benderfynais felly i fynd i weld fy nheulu yn ardal Galway sef Gorllewin Iwerddon ar y dydd Iau. Mi fyddai wedi bod yn andros o ddrud a ddiflas i aros yn Ddulyn am Dri diwrnod. Roedd yr hwyliad prynhawn dydd Mercher yn eitha’ garw, gwynt grym 8. Doedd ddim llawer o awydd cwrw arna. Roedd dipyn dros gant o gefnogwyr wedi teithio drosodd am y gêm yn erbyn Yr Alban, ond roedd llawer mwy o gefnogwyr Alban yn y stadiwm. Roedd yn hanner cyntaf boddhaol i Gymru yn enwedig ar ôl I Earnie sgorio cyn yr egwyl, i roi ni ar y blaen. Gôl dda hefyd, mi wnes i ddathlu fel ynfytyn, ia Cymru’n curo oddi gartre. Dydy ddim yn digwydd yn aml, ta waeth, gwnaeth dim parhau, ie’r un hen stori, Cymru’n chwalu, ar Alban yn ennill o dair gôl i un. Mi Wnaeth un neu ddau o chwaraewyr lles i hunan , fel Earnshaw a Neil Taylor, ond eto doedd jermaine Easter ddim yn edrych fel chwaraewr rhyngwladol i fod yn deg. Gefais ryw ddau beint ar ôl gêm o’n gwely’n gall roedd hi.
Dydd Iau wnes ddal y trên i Castlerea i gwrdd â’r teulu. Roedd yn siwrnai o fron i dair awr o Ddulyn. Mi gefais groeso gan fy ewythr ân fodryb, ond roedd hin tipyn o sioc pan wnes weld fy nhad yno hefyd. Mae hon yn stori arall. Doeddwn heb ei weld ers iddo adael y teulu pam roeddwn yn bedair oed. Heblaw am unwaith yn 1998. Does dim pwynt dal dial rŵan i fod yn deg. Mi gefais sesh a hanner â nhw. Yn y nos ers allan â fy nghefnder i bentref Glenamaddy. Pentref bach ydy ond llwyth o dai dafarnau a heddlu ddim i weld yn poeni os di pawb yn meddwi gwirion yno.
Roedd ben mawr arna i yn fore cyn cychwyn ar fy siwrne nol i Ddulyn. Roedd hin anodd ffarwelio’r teulu am fy mod byth yn eu gweld. Roedd syched mawr gennyf ar y trên, ond mi aeth y siwrne’n sydyn , mae bob tro yn pam ti pendwmpian. Roedd yn ras ar draws y ddinas wedyn i daflu fy mag yn y gwesty, a ras arall wedyn i’r stadiwm Aviva
. Mae gwylio Cymru yn sobr unwaith yn dipyn o gamp i fi, ond dwywaith yn sicr yn gamp.
Roedd gan Gymru dîm llawer mwy profiadol yn erbyn Gogledd Iwerddon, ag oedd y dewin Aaron Ramsey yn dechrau’r gêm. Dydy Gogledd Iwerddon ddim yn dîm gorau’r byd, a'r teimlad oedd, bod gan Gymru gyfle da i gael ei buddugoliaeth gyntaf o dan arweinydd Gary Speed. Mi gawsom hefyd, gyda goliau gwych gan Ramsey a Earnie.
Roedd y dathlu tro’ma yn wallgof. Ie, roeddwn yna pan wnaeth Cymru ennill, er mis Awst diwethaf cofiwch. Roedd yn deimlad braf, yn enwedig ar ôl siom y misoedd diwethaf.
Roedd bonws arall pan wnaeth Ramsey rhoi ‘armband capten ‘i mab fy ffrind, rhywbeth byth cofiadwy i’r hogyn bach i gymryd o’i daith i Iwerddon. Mi gefais beint neu ddau ar ôl y gêm, pam ddim de, ydy Cymru’n ennill ddim yn digwydd yn aml.
Mae gennyf bedwar pwynt i’r Gymdeithas bêl droed hefyd. Pam ddim ar y dydd Iau bydda nhw wedi trefnu i’r cefnogwyr fynd i gwrdd ar chwaraewyr i’r gwesty i gael tynnu lluniau a phethe, cyfle i gael marchnata da?. Hefyd roedd crys T i gael am ddim i’r cefnogwyr ond dim seis i blant? A ddiwethaf, pam sa’r chwaraewyr i gyd wedi rhoi eu crysau i’r cefnogwyr ar ôl y ddwy gêm, gormod i ofyn?
Roedd y siwrnai adre’n dawel, y môr yn llyfn. Y siom fawr i’r trefnwyr y gwpan roedd y dorf, felly, yn fy marn i mae 'na le i’r gystadleuaeth ond ddim yn y fformat yma. Pam ddim cynnal dwy gêm y diwrnod? Sef 17.30 a 20.00, saf bobl yn gwario llai o bres ar gwrw, llai o amser i ffwrdd o’i gwaith. Doedd y tro hon ddim yn llwyddiant, tro nesa wyrech, oes gennyf i deulu yn yr Alban?
No comments:
Post a Comment