Monday, 1 July 2019

Cowlyd, Cymru a Llanrwst

Rwyf wedi seiclo yn Dde America, Alpau'r Eidal a Ffrainc, Y Pyrenees a'r Dolomites ond, oes nunlle fel adra nagoes.
Mae Bwlch y Groes ger Ddinas Mawddwy’n cael ei hadnabod fel y ddringfa galetach yng Nghymru gan nifer, ond yn ddiweddar mae dringfa arall ger Trefriw yn Nyffryn Conwy yn cystadlu á'r Bwlch.
Tri Llyn
Uwchben pentref Trefriw mae tri llyn sef Crafnant, Geirionyn sydd yn eithaf agos i'w gilydd ac y mwyaf Cowlyd.
Roeddwn wedi cerdded rownd y ddau lyn bach gyda'r wraig rhyw dair blynedd y nôl ac wedi sylwi ar yr elltydd serth, ond nad oeddwn yn gwybod am y ddringfa i Gowlyd tan flwyddyn ddiwethaf pan wnaeth aelodau o Glwb Seiclo Madog mentro'r ddringfa erchyll.
Rŵan, mae rhaid egluro pan mae beiciwr yn mentro dringfa yn farn y rhan fwyaf (dwi feddwl ) y nod ydyw beidio stopio o gwbl, eto ar allt galed does dim cywilydd yn clipio allan o'r pedal, mae bob beiciwr, neu ran fwyaf di cael y profiad o hyn dwi siŵr, a does dim cywilydd, y peth i'w neud ydy mentro eto a deud wrth y tsimpansî yn eich pen i hel hi am adra!
Mae Bwlch y Groes i’m bell o ddwy filltir o hir ac ar gyfartaledd ddim llai na 14% a'n sicr yn galetach yn y diwedd lle mae'r barrier yn dechrau, hefyd rydach yn gweld y diawl o Lanymawddwy fel neidr lwyd yn estyn i'r awyr. Roedd hogiau’r clwb yn siŵr bod Cowlyd yn waeth ac roedd yr amseroedd yn rhywbeth tebyg tua 20-25 munud o ddioddef, ac i fod yn onest oeddwn yn aros am yr amser cywir i roi cynnig i'r allt frwnt.
Dwyn Ffrwyth
Pythefnos nôl roeddwn yn Alpau Ffrainc am wythnos o feicio gyda’r Clwb, bydd beicwyr profiadol yn gwybod bod cyfnod dramor yn beicio yn dwyn ffrwyth, coesau seiclo  ydy'r dywediad, mae rhywun i fod yn gryf iawn yn dod adra. Blwyddyn ma’ rwyf wedi beicio bron i 3000 o filltiroedd, tipyn mwy na blwyddyn ddiwethaf ac roeddwn wedi cael grêt o wythnos yn yr Alpau yn llwyddo i ddringo'r ddringfa eiconig Alpe d' Huez mewn awr a deng munud, yn 2006 oeddwn wedi cymryd 1awr 26 munud, ydy' hyn yn dangos bod oed dim rhwystr?
Felly yn fy marn i oeddwn yn barod am Gowlyd. Wnes ddechrau o Port am Allt Goch a Mignaint i lawr i Ysbyty Ifan, wedyn Nebo cyn y disgyniad sydyn ond beryg i Lanrwst, cyn cyrraedd Trefriw, oedd 35 milltir ar y system GPS newydd Wahoo fi. Mae ffordd hawdd o neud y dringfeydd ma’ hefyd, mynd a char yn agos i waelod y ddringfa onid twyllo'ch hunain yda chi?
Ond roeddwn yn benderfynol ac wrth lwc mi welais feiciwr yn waelod yr allt, boi o'r Wirral ac fel fi yn mentro Cowlyd am y tro gyntaf. Roedd nerfusrwydd ynau, fel blwyddyn ddiwethaf yn yr Eidal pan roeddwn yn waelod y Mortirolo, dringfa o ddua saith milltir gyda chyfartaledd o 11% - hunllef!
Mae Cowlyd ond yn tua dwy filltir a chyfartaledd o 13% ond roedd rhai o’r bachdro dros 30%, ar un adeg oni'n synnu bod y gadwyn ddim di torri! Ar un bachdro mi gododd y beic, roedd yn hurt o ddringfa, serth a serth a nunlle i orffwys, mi wnaeth y tsimpansî yn fy mhen deud wrtha i stopio ond y fi oedd yr enillydd ar y diwrnod hwn.
Milltiroedd yn y banc
Roedd coesau Ffrainc wedi talu a'r holl filltiroedd o ymarfer, allt arall i'r Palmares. Ar adegau roeddwn ond yn mynd tua thair milltir yr awr, gyda chyflymdra gyfartaledd o 4.9 MYA, roedd ond wedi codi gyda'r allt yn mynd llai serth yn y rhan olaf, 24.59 eiliad oedd fy amser, i roi dipyn o bersbectif  ar Strava amser y gyntaf ar yr allt sef y Cymro, Dan Evans, ydy 14.22 -  8.4 MYA gyfartaledd, sut ar y ddaear ma’ neud hynna, atebion ar gerdyn post plîs.
Felly bydd y ddadl pa un ydy allt galetach Cymru yn parhau, dwi'm yn siŵr pe bai BYG yn galetach neu'r gwrthwyneb. Mae Church Hill ger Dyffryn Ceiriog yn galed hefyd mae huna’n stori arall, felly dwi am fynd i edrych ar fap am allt arall i fy herio.
Bachdro – Hairpin/Switchback
Cadwyn – chain
MYA – MPH
BYG – Bwlch y Groes

4 comments:

  1. Erthygl dda Tommie ,deallt yn iawn be sgen ti fanhyn ,i rhywun sydd ddim yn beicio ma siwr fod yn anodd deallt beth sydd yn gyrru dyn i fynd drwy'r fath strach ond i ni feicwyr mae rhaid brwydro'r chimp yn y pen yn weddol gyson ...pawb ai hobi am wn i 😉🚴‍♂️

    ReplyDelete
  2. Llongyfarchiadau TC - Yn y Gorllewin mae fyny a lawr yn gyson,dim lot fflat fford hyn.Mae'n gas gen'ai unrhywbeth dros 9% er dwi yn palu mlaen.Mae Cowlyd dwywaith serth y Tymbl a bron yr un hyd.Da iawn.

    ReplyDelete
    Replies
    1. fel dwi dud bu rhaid ni gael sbin yn fuan!

      Delete