Sunday, 30 June 2013


Etape Eryri -2013

Dydd Sul 8fed  o Fehefin 2012 roedd sportive Etape Eryri sef  her ar feic yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon.  Roedd tua 600 o seiclwyr yn cystadlu, ymlaen i 16 o Fehefin 2013 roedd yr ail Etape Eryri yn cael ei gynnal gyda dros 1100 o seiclwyr ar ffyrdd Eryri. 

Roedd maes Caernarfon yn llawn bwrlwm 07.00  bore gyda seiclwyr yn gadael mesur 30 bob tri munud.

            Roedd clwb seiclo Madog yno gyda rhai yn wneud yr un mawr, 103 o filltiroedd a rhai yn wneud yr un canol 76.  Roedd, hefyd her o 46 milltir i geisio denu seiclwyr newydd i gymryd rhan.

Mae’r cwmni Camu i’r Copa yn trefnu digwyddiad o’r safon uchaf, gyda marsialiaid ar bob cyffordd a pum stop diod ar yr her fawr.   Ac mae ‘r cyfarwyddwr Tim Lloyd wedi llwyddo i gael neb llai na ‘Sir Dave Brailsford’ i gymryd rhan, roedd Sir Dave digon hapus i gwrdd â phobol am sgwrs a thynnu lluniau ar ôl iddo orffen.

 yr hogiau a syr Dave
Ar ôl brecwast o bowlen ‘bran flakes’, roedd 8 gel gennai am yr her, a dwy botel gyda diod egni.  Rwyf wedi arfer dros y blynyddoedd wrth  seiclo i wybod pryd a beth i’w fwyta, ond oedd problem ddoe gyda’r ddiod lliw coch yn y stop cyntaf ym Meddgelert. Roedd yn blasu fel disel a throi stumog pawb - yr unig gŵyn gennai am y digwyddiad. Mae unrhyw reid ar feic o dros dair awr yn rhoi poen yn yr ysgwyddau a chefn ond heb os mae poen stumog yn ddiflas.

Roedd y cyfeillgarwch ar y reid yn wych a dyna beth sy’n wneud seiclo mewn digwyddiad fel hyn yn wych.  Roedd y cwrs yn mynd i fyny elltydd Drws y coed ger Talysarn, Rhyd ger Llanfrothen ac Allt Goch ger Llan Ffestiniog.  Elltydd bydd y rhan fwyaf o seiclwyr lleol yn eu hadnabod, rwy’n methu neud y penderfyniad ydy hyn yn fantais neu’n anfantais!

Mae her fawr wedyn yn mynd am lôn Drawsfynydd  i Fala a throi'r nôl i fyny Lôn Migneint, ac yn wastad mae’r gwynt blaen yn erbyn chi.  Fy rhan gorau o’r her ydy disgyn lawr i Ysbyty Ifan, mae rhywun yn gallu cael cyflymdra’u heithriadol, mae allt greulon wedyn i fyny am Bentrefoelas lle mae’r gwirfoddolwyr lleol yn aros amdanoch gyda bwyd a diod.

Mae drag wedyn i fyny am bentre’ Nebo cyn disgyn i Lanrwst, roedd y lôn yma yn berig oherwydd mae coed uwchben a cherrig mân, cyfnod ofnus gyda phawb yn pwyllo.  Ar ôl cyrraedd Betws y Coed roeddwn y nôl ar ffyrdd cyfarwydd, ond roedd y gwynt blaen o Gapel Gurig i Ben y Pas yn dorcalonnus.  Roedd angen i aelodau ifainc o Glwb Seiclo Madog i fy helpu drwy’r hunllef.  Roedd disgyn i lawr bwlch Llanberis yn brofiad gwych, gyda llinell o seiclwyr mewn rhes, roedd hawdd dychmygu fy mod fel seiclwr proffesiynol yn un o’r rasys enwog fel y Tour de France.

Roedd  trefnwyr y digwyddiad gyda un tro yn  y gynffon creulon arall, yn ein harwain dros allt Ceunant - ouch!  Ar ôl Waunfawr roeddwn yn gwybod fy mod bron a gorffen a wnes fynd fel ffŵl drwy Bontnewydd a rownd Castell Caernarfon a’i fyny’r maes lle'r oedd cannoedd yn ein cymeradwyo wrth fynd dros y llinell derfynol.  Roeddwn yn 38 munud yn sydyn na 2012, ac roeddwn yn ystod yr wythnos wedi cael fy nghanlyniad gradd o 2.1 a myfyrwyr y flwyddyn gan y brifysgol.   Yn sicr roedd yn amser ddathlu gydag un neu ddau o beints! 

Ystadegau -  amser 7.10 amser seiclo 6.35

Y gyntaf nôl Gareth Mcguiness 4.59.30 !!!!! 

Tommie Collins

Wednesday, 26 June 2013


DREILANDER GIRO 2013
wedi gorffen

Ar drothwy’r ras fawr Tour de France, roedd  y seiclwr brwd o Borthmadog Tommie Collins yn Awstria i gymryd rhan yn y Drei lander Giro Sportive.  Drei Lander yw tair gwlad, sef Awstria , Eidal a Swistir.  Ond pam dewis y sportive hon?

Roeddwn wedi seiclo Alpe d’ huez yn 2006, Mt Ventoux yn  2011 a Col du Tourmalet yn 2012, tair dringfa eiconig ym myd seiclo, yn cynnwys yr Alpau a’r Pyrenees.

            Roeddwn wedi bod yn Awstria yn gwylio pêl droed i Vienna a Gratz, ond roeddwn wedi fy synnu gyda harddwch ardal De Tirol.  Roeddwn yn eithaf siomedig hefyd, oherwydd roedd dau bellter yn y sportive sef 100 milltir a 72 milltir.  Doeddwn heb sylweddoli bod y sportive mor boblogaidd, gyda phobl yn cofrestru a llwyddo i gael lle yn fis Hydref diwethaf.  Felly, ar ôl  llawer o boeni mi gefais gadarnhad bod fi yn yr un 72 filltir ond pythefnos cyn mynd.   Fel dwi’n deall, tydi awdurdod Swistir yn hoff o fwy na 1500 o seiclwyr ar eu ffyrdd, felly mae llawer o ddadlau a pherswadio gan drefnydd y sportive i’w wneud.

Roedd 1500 yn mynd ar y daith Ac a thua 700 ar B.  Roeddwn wedi hedfan i Munich ac roedd rhaid gyrru tua thair awr i bentre’ Nauders ar ffiniau Eidal a Swistir.


Tîm GB
Gwnes fynd am reid o dair awr dydd Gwener i hinsoddi.   Roedd Peredur ap Gwynedd o’r grŵp Pendelum yn seiclo eitha’ agos ac wedi fy rhybuddio i hinsoddi cyn cymryd rhan yn y sportive.

Roedd allt o 3.5 milltir i lawr i Swistir gydag un ar ddeg bachdro, roedd yn allt eithaf i ddringo nôl fyny, dim rhy serth, ond roedd y gwres yn 35  gradd !

Dydd Sadwrn es i gofrestru ac yn eithaf siomedig pan gefais y cerdyn i roi ar y beic.  Roedd enw a chyfeiriad fi arno, ond hefyd banner Jac yr Undeb a GBR , ie, roeddwn yn cynrychioli GB, pwy sa’ feddwl!

Gyda dros 2000 o seiclwr yno, roedd y pentre’ yn llawn cyffro gyda digwyddiadau seiclo yn cael eu cynnal trwy gydol y penwythnos.  Paradwys i rywun fel fi sydd wrth ei fodd â seiclo.

Ar y dydd Gwener roedd pumdeg o gystedlydd yn dechrau’r  Ras dros yr Alpau, sef 500 km gyda tharged o’i orffen o fewn 32 awr.  Gwallgo’, roedd y cyntaf dros y llinell derfynol bore dydd Sadwrn, mewn 22 awr,  heb os -  arwr, mae’n her eithafol, un diwrnod wyrech.

Cael yn deffro  gan AC/DC

Am 6.30 bore’r Sul roedd cyhoeddwr y sportive yn bloeddio wrth ei fodd, roedd cerddoriaeth AC/DC  dros y pentre’.   Roedd gennai ddwy awr arall nes i fi gychwyn, mae’n rhaid cyfaddef, roedd yr awyrgylch yn wych, llawn cyffro, Almaenwyr, Awstria ac un Cymro yn y man cychwyn.   Drei,svei eins bloeddiodd y cyhoeddwr a ffwrdd a ni, gyda’r heddlu yn ein harwain ar y briffordd.   Mae pawb yn fy holi pa reid -allt oedd yr anoddaf,  mi fyddai wastad yn ateb y diwethaf, ond i seiclo fyny’r Stelvio gyda’i  48 bachdro mewn gwres  o 27 gradd roedd hon yn galed.  O bentre’ Prato i dop y Stelvio neu Stilfserjoch yn Almaeneg roedd yn 15 milltir a gradd o 7.5 gyfartaledd, wnes gymryd tua dwy awr a chwarter i fyny’r Tourmalet a Ventoux, ond amser fi fyny’r Stelvio oedd dwy awr a phedwardeg pedwar munud.    Roedd y copa fel ffair, ond wnes lwyddo  gael rhywun o Fanceinion i dynnu fy llun.  Roedd rhaid disgyn wedyn lawr yr Umbrail Pass i Swissdir.  Roedd hon yn anodd ac eithaf technegol gyda bachdro ar ôl bachdro, oedd yr arddwrn, gwddw ac ysgwydda yn boenus ac yn sicr oeddwn yn cwestiynu fy hun, pam dwi neud hyn!

            Roeddwn yn ddiolchgar iawn  i gyrraedd Nauders yn saff, mae disgyn lawr elltydd dramor yn hynod o brofiad, ac rwy’n edmygu’r seiclwyr proffesiynol i ddisgyn a rheoli eu beics fel y maen nhw ar ffasiwn gyflymder.  Roeddwn wedi cwblhau’r her mewn 6.28 munud ac roeddwn yn 128 allan o 700.   Roedd crys seiclo i gael ar ôl gorffen, a digonedd  o gwrw  i’w gale yn y  babell fawr, lle’r oedd yn llawn seiclwyr a beics.  Rŵan dwi’n edrych am yr her nesa dramor am 2014 -  unrhyw awgrymiadau?

 Tommie Collins