Friday, 6 January 2012

lwcus iawn- lucky boy

LWCUS IAWN-

Wedi cael  wythnos dda o ymarfer a thywydd yn braf, mi benderfynais fynd am sbin o tua thair  awr heddiw.  Dw i’n trio ymarfer y flwyddyn hon â  HRM ( heart rate monitor), y bwriad ydy i gael rhyw fath o strwythur i’r ymarfer..

Nid oedd angen trowsus hir a overshoes pan gychwynnais, ond erbyn cyrraedd Rhyd Ddu roedd y glaw mân yn boen braidd, sbectol off, pig y cap i lawr a ‘hope for the best’.

Roedd yn anodd aros yn y zone eto, ymarfer yn zone 2 roeddwn heddiw, ond roeddwn yn crwydro i zone 3 yn aml, tydi hyn ddim yn hawdd !

Er hynny, wrth ddod i fyny'r allt cyn Glanbyl, nid oedd y beic yn bihafio - oh no blydi punctar ( a oes rhywbeth gwaeth na chael punctar a phobl yn pasio) duw, oedd yn mynd dros bumps yn iawn ‘ all in the mind’, rownd cornel i lawr allt Penmorfa , oh no, wnaeth y beic ddechrau llithro a lori fawr yn dod ochr arall, rhywsut wnes lwyddo i reoli’r beic, ond oedd yn llithro o ochr i ochr.  Mi lwyddais i stopio - roedd fy nghalon yn fy nheg i.

Nid rwy’n meddwl fy mod yn dda yn rheoli beic- ond roedd rhywun yn edrych i lawr arnaf- diolch.  Wnes seiclo adref fel rhech yn meddwl faint o lwcus oeddwn.  Oedd, roedd y teiar yn fflat erbyn cyrraedd adref !

LUCKY BOY

I’ve had a very good week up to now training.   Over 4 hours so far.  Today looked a nice day so I decided to go for at least a 3 hour spin.

When I got to Rhyd Ddu the drizzle was getting me down, specs off and the peak on the hat down, and hope for the best down the hill to Nantlle ( by the way very nice place J).

Whilst going up the hill before Glanbyl I was sure there was something wrong with the bike, I descended down to Penmorfa ( what a great descent that is) but whilst turning through the last bend  the bike started to slide- oh no - yes there was a bloody big arctic the other side.  Somehow I managed to right the bike but it was still moving from side to side, I eventually came to a standstill. My heart was in my mouth, no I didn’t s**t myself. 

Anyway I got back on the bike and limped home, yes i did have a flat tyre, somebody up there was looking down at me - thanks.  I did manage 2 hours 30 mins.