Sunday, 31 July 2011

POT 6 YR YMATEB




Mi fyddai di allu bod yn waeth mi wnaethom osgoi'r cewri.  Oes bosib ennill lle yn ffeinals ym Mrazil 2014- pam ddim?  Yn grŵp A oedd Cymru, ac ymuno â ni oedd, Macedonia, Gwlad Belg,Yr Alban, Croatia a Serbia..  Ydy- mae’r  timau o’r Balkans yn dechnegol ar y cyfan, ond, oes bosib wneith yr achlysur o fod yn gymdogion a gelynion helpu ni?

Mae Gwlad Belg yn dîm ifanc- llawn botensial fel Cymru,a wnaeth yr Alban rhoi cweir i Gymru yn ddiweddar yn Nulyn.  Ond: does dim byd i ni ofn.  Mae Serbia’n eitha’ cyfarwydd i ni, colli dwy gêm wnaethom yn gemau rhagbrofol Euro 2004, pan roeddynt yn Serbia a Montenegro. Tydi nhw ddim mor dda ar hyn o bryd.  Croatia bydd y ffefrynnau, ac maen nhw llawn sêr, ond eto, maen nhw wedi cael eu dyddiau ora?. Yr hen elyn-Yr Alban yw’r gwrthwynebwr arall- heb os, bydd yr hen gefnogwyr yn cofio Anfield 77 a llaw Joe Jordan.  Dydy Cymru erioed wedi cwrdd â Macedonia, mae ganddyn nhw seren enwog yn chwarae’n serie A, yn Eidal, Goran Pandev a dwi’n sicr mi nawn ni roi parch iddyn nhw.?

Dwi’n sicr fydd Gary Speed a’i dim hyfforddi yn gweithio’n galed i drefnu’r gemau i fantais Cymru, dwi’n sicr hefyd mi fydd ‘double header’ oddi gartref wrth i ni wynebu tair gwlad o’r Balkans.

Gobeithio bydd y Gymdeithas Pêl droed ddim yn symud y gemau i stadiwm y mileniwm, oherwydd bydd ddim mantais i Gymry.

Dros y misoedd nesa - bydd yn holl bwysig, bod y chwaraewyr i gyd yn ymuno a’r garfan i bob gêm.

I gefnogwyr teyrngar, mi fyddan yn edrych blaen i Facedonia am y tro cyntaf, felly google amdani- am wybodaeth pwy sydd yn hedfan yna.